Mae gofyn i bobol sy’n gyrru yn ôl adref dros y gwyliau fod â synnwyr cyffredin wrth i wyntoedd cryfion daro Cymru heddiw.

Erbyn hyn mae gwynt a glaw storm Barbara wedi dechrau clirio dros Gymru ond mae ei hôl yn amlwg, gydag adroddiadau bod ffyrdd wedi cau yn y Gogledd gan fod coed wedi cwympo.

Mae’r rheilffordd rhwng Gilfach Bargoed a Phengam yn y De wedi cau am y tro hefyd, yn dilyn glaw trwm a llifogydd.

Heddiw yw’r diwrnod prysuraf o ran traffig dros gyfnod y Nadolig.

12 miliwn o geir ar y ffyrdd

Dywedodd llefarydd ar ran yr AA: “Bydd angen i yrwyr fod â synnwyr cyffredin am eu cynlluniau teithio rhwng y pedair a’r chwe awr nesaf.”

Mae’r cwmni yn darogan y bydd tua 12 miliwn o geir ar ffyrdd gwledydd Prydain heddiw gyda phobol yn mynd adref, yn mynd i siopa ac yn ymweld â theulu a ffrindiau.

Roedd yr AA wedi comisiynu arolwg oedd yn cynnwys dros 19,000 o yrwyr, gyda disgwyl i 41% yrru mwy na 20 o filltiroedd heddiw.

Dyma ddiwrnod prysur iawn i feysydd awyr Prydain, gyda dros 4.5 miliwn o bobol yn mynd dramor rhwng 18 Rhagfyr a 2 Ionawr.

Dros gyfnod yr ŵyl, bydd gwaith cynnal a chadw’r rheilffyrdd yn golygu bod teithwyr yng Nghaerdydd a Manceinion yn wynebu anawsterau gyda llai o drenau yn rhedeg.