Llys y Goron Abertawe
Mae pedoffeil yng Ngheredigion wedi ei garcharu am 40 mis am yn Llys y Goron Abertawe heddiw am geisio trefnu i gael rhyw gyda phlentyn dros y We.

Fe gafodd David John Williams, 54 oed o Aberystwyth, ei ddal yn ceisio hudo merch 14 oed dros y We ychydig wythnosau wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar am drosedd debyg yn 2015.

Nid oedd y pedoffeil wedi deall ei fod mewn gwirionedd yn cyfnewid negeseuon gyda dyn, yn hytrach na merch 14 oed, oedd yn gobeithio helpu’r heddlu i ddal troseddwyr rhyw.

Yn ôl y Barnwr Geraint Walters roedd yn “destun pryder difrifol” bod David John Williams wedi troseddu mor fuan ers gadael carchar fis Medi’r llynedd.

“Does gen i ddim gronyn o amheuaeth eich bod, heb driniaeth, yn beryglus…

“Rydych yn gaeth i’r gobaith o gael rhyw gyda merched dan oed.”