Sion Jones
Mae Arweinydd y grŵp o gynghorwyr Llafur ar Gyngor Gwynedd yn dweud bod angen i’r blaid geisio denu’r bobol fu’n pleidleisio tros UKIP.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n awgrymu gall y Blaid Lafur wynebu cwymp sylweddol yn nifer ei seddi yn yr etholiad nesaf, mae gan y Cynghorydd Siôn Jones eiriau plaen i’w blaid a hithau ar groesffordd.

“Rydan ni angen gwneud yn siŵr bod lleisiau’r dosbarth gweithiol yn parhau i fod â’r blaid Lafur,” meddai gan bwysleisio bod angen ennill pleidleiswyr UKIP nôl “os ydyn ni am guro’r etholiad nesaf”.

“Rhaid i ni werthfawrogi lleisiau pobol sydd wedi pleidleisio i UKIP,” meddai a’r gobaith yw y bydd “pobol oedd wedi pleidleisio i UKIP, oedd yn arfer pleidleisio i Lafur, yn dod nôl”.

Newid ffiniau

Nid y dosbarth gweithiol yn troi at UKIP yw’r unig her i Lafur yn ôl Siôn Jones: “Rydan ni’n colli lot o seddi yng Nghymru trwy’r newidiadau yma gyda’r ffiniau … bydd hynna’n taro Llafur yn wael.

“Rhaid i ni weithio rŵan ar seddi oedd yn ddiogel gyda ni – lawr yn y de – a gwneud yn siŵr bod y rheina’n saff am yr etholiad nesaf. Mae seddi fel Ynys Môn mewn peryg ac mae’n rhaid i ni neud yn siŵr bod ni’n ceisio cadw’r seddi yna.”