Georgina Symonds (llun: Heddlu Gwent/PA)
Mae barnwr yn achos miliwnydd sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio ei gariad wedi dweud wrth y rheithgor y bydd yn derbyn rheithfarn mwyafrif.

Roedd Peter Morgan, 54 oed, o’r Fenni wedi lladd Georgina Symonds, 25 oed, yn ei chartref yng Nghasnewydd.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Garnham wrth y rheithgor y byddai’n derbyn rheithfarn mwyafrif gydag o leiaf 10 yn cytuno:

Mae’r rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd wedi bod yn ystyried eu dyfarniad ers dydd Gwener. Dywedodd y barnwr wrthyn nhw: “yn amgylchiadau arbennig yr achos hwn dim ond dwy reithfarn sydd ar gael i chi – euog o lofruddiaeth neu’n ddieuog o lofruddiaeth ond euog o ddynladdiad.

“Mae llawer o dystiolaeth wedi bod i’r achos hwn a byddwch chi eisiau ystyried yn ofalus.”

Mae’r rheithgor yn cynnwys wyth dyn a thair dynes.

Cefndir

Mae’r miliwnydd Peter Morgan yn cyfaddef iddo ladd Georgina Symonds, 25 oed, ond yn gwadu ei llofruddio, ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll ac wedi colli rheolaeth.

Cafodd y ferch ei thagu i farwolaeth mewn byngalo oedd yn eiddo i Peter Morgan yn Llanfarthyn, Casnewydd ar Ionawr 12.

Mae’r llys wedi clywed fod Peter Morgan o Lanelen wedi prynu anrhegion drud ac wedi talu £10,000 y mis i Georgina Symonds am ei chwmni.

Clywodd y llys hefyd ei fod wedi plannu dyfais gwrando cudd yn ei chartref, ac wedi clywed y ferch yn sôn am ei chynlluniau i’w adael ond i barhau i gymryd ei arian.