Mae angen i fargen ddinesig rhanbarth Caerdydd wella cysylltiadau trafnidiaeth y brifddinas, yn ôl awduron adroddiad newydd.

Yn ôl y Comisiwn Twf a Chystadleugarwch, er mwyn i’r cynllun ‘bargen ddinesig’ gwerth £1.2 biliwn weithio, mae angen trydaneiddio rheilffyrdd yr ardal a sicrhau’r Metro i dde Cymru.

Mae’r fargen yn cynnwys 10 cyngor sir lleol, ac yn addo creu 25,000 o swyddi a buddsoddiad o £4 biliwn yn y sector breifat.

Fe gafodd yr adroddiad groeso gan arweinwyr y cynghorau hynny sy’n eistedd ar ‘gabinet cysgodol’ y cynllun ac maen nhw yn cwrdd yn y flwyddyn newydd i ystyried yr argymhellion.

Hefyd mae cydweithio gwell rhwng busnesau, adeiladau mwy o gartrefi fforddiadwy a gwella sgiliau pobol yn rhan o argymhellion yr adroddiad.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Mae’r gwaith hwn yn cynrychioli’r adolygiad mwyaf cynhwysfawr o waith ar y ddinas-ranbarth a wnaed hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at ystyried yr adroddiad ac at ystyried sut y byddwn yn bwrw ymlaen â’i argymhellion.”

Cefndir

Fel rhan o’r cytundeb, daw £500 miliwn yr un o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain, gyda’r cynghorau sir yn cyfrannu o leiaf £120 miliwn dros gyfnod y cytundeb.

Cafodd y cynllun ei arwyddo’n swyddogol ym mis Mawrth eleni ond mae’n rhaid i bob cyngor sir sy’n rhan ohono ei gadarnhau yn swyddogol cyn iddo fod yn weithredol.

Y cynghorau sy’n rhan o’r cynllun yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg yno’n arwyddo hefyd.

Yn ôl y BBC, mae yna bryder na fydd Cyngor Caerdydd yn gallu pasio’r cytundeb yn dilyn problemau mewnol gyda’r grŵp o gynghorwyr Llafur yn y brifddinas.