Dros y Dolig bydd cyhoeddwr llyfrau addysgol yn danfon llyfrau ac adnoddau plant i wardiau plant mewn ysbytai yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.

Bydd Canolfan Peniarth yn anfon deunydd poblogaidd y Ganolfan i wardiau plant mewn ysbytai fel rhan o apêl Nadolig ‘Anfonwch Anrheg’ Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Mae llyfrau wedi eu sgrifennu gan Manon Steffan Ros, Gwenno Davies a Hywel Griffiths yn rhan o’r casgliad caiff ei ddanfon.

Bydd y llyfrau a’r adnoddau yn cael eu rhannu rhwng wardiau plant mewn ysbytai yn ne orllewin Cymru fydd yn cynnwys Bronglais, Glangwili a Llwynhelyg.

Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, Gwydion Wynne: “Ein nod yn y flwyddyn newydd yw cysylltu â gweddill y byrddau iechyd yng Nghymru er mwyn gallu cyflwyno ein llyfrau a’n hadnoddau i holl wardiau plant Cymru.”