Mae dyn, sydd wedi cyfaddef trywanu dau gymydog ar ôl llunio rhestr o bobol i’w lladd, wedi cael ei garcharu am oes.
Roedd Andrew Seal, 49, wedi llofruddio Gwilym Jones, 73, a cheisio llofruddio, Bridie Jones, 21, ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Yn ei fflat ym Mro Ogwr, fe ysgrifennodd restr o bobol yr oedd yn bwriadu eu lladd gan ysgrifennu yn un o’i nodiadau, “Dw i ond yn lladd y rhai drwg.”
Ar nos Sul, 15 Mai eleni, fe wisgodd Andrew Seal het ddu, menig a siaced ledr, gan gario cyllell i ddechrau ar ei ymosodiadau.
Doedd yr un o’i ddioddefwyr, oedd ddim yn perthyn i’w gilydd, ar y rhestrau roedd wedi’u llunio, clywodd Llys y Goron Caerdydd.
Ci yn achub Bridie Jones
Fe aeth Andew Seal i fflat Gwilym Jones a’i drywanu i farwolaeth, cyn mynd i fflat Bridie Jones a cheisio gwneud yr un peth i’r fam ifanc.
Roedd Bridie Jones wedi ateb y drws iddo am ei bod wedi ei adnabod ers oedd hi’n blentyn.
Er mai anafiadau arwynebol a gafodd, fe drywanodd hi naw o weithiau, cyn i’w chi ymyrryd a gorfodi Andrew Seal i adael.
Cafodd ei arestio’r diwrnod canlynol yn nhŷ ei rieni ac ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty, fe wnaeth e gyfaddef i’r heddlu ei fod hefyd wedi ymosod ar Gwilym Jones.
Mewn gwrandawiad blaenorol, roedd Andrew Seal wedi pledio’n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll a cheisio llofruddio.
“Annormaledd” meddyliol
Fe wnaeth erlynwyr dderbyn ei ble ar ôl cael adroddiadau gan dri seiciatrydd, oedd yn cytuno ei fod yn dioddef o “annormaledd” meddyliol ar y pryd.
Roedd yn dioddef o seicosis paranoiaidd o ganlyniad i’w epilepsi a’i ddefnydd trwm o ganabis.
Dywedodd Christopher Clee QC, oedd yn amddiffyn Andrew Seal, bod ei deulu wedi bod yn ceisio cael help iddo ers sawl blwyddyn.
Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 12 mlynedd dan glo.