Mae pryder y gallai hyd at 150 o swyddi gael eu colli mewn becws yng Nghasnewydd ar ôl y Nadolig.
Mae’r grŵp Food Utopia wedi dweud eu bod yn ymgynghori gyda staff ynglŷn â chau Avana Bakeries yn Y Tŷ Du ar ddiwedd Ionawr.
Mae’r becws yn rhoi’r bai ar y farchnad gystadleuol gan ddweud nad yw’r safle’n gynaliadwy.
‘Hynod o siomedig’
Yn ôl yr Aelod y Cynulliad Ceidwadol Mohammad Ashgar “mae’r newyddion yma yn hynod o siomedig ac mi fydd yn achos pryder i’r gweithwyr a’u teuluoedd.
“Mae bob tro yn anodd i’r rhai sy’n wynebu colli eu swyddi, yn enwedig yn agos at y Nadolig, ac mae’n siom fawr i’r ardal bod gymaint o swyddi yn mynd i gael eu colli.
“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried ar frys pa gymorth y gallen nhw ei roi i’r gweithwyr o ran ail-hyfforddi a chymorth i ddod o hyd i swyddi newydd.”
Cefndir
Yn 2014 roedd Food Utopia wedi prynu’r busnes gan riant gwmni Avana, 2 Sisters.
Roedd y ffatri’n wynebu cael ei chau yn gynharach yn 2014 pan gyhoeddodd 2 Sisters ei fod wedi colli cytundeb gwerth miliynau gyda Marks and Spencers. Roedd yn cyflogi 640 o bobl ar y pryd.
Erbyn i Food Utopia gymryd drosodd ym mis Awst y flwyddyn honno roedd y gweithlu wedi gostwng i 550. Bythefnos yn ddiweddarach fe gollodd 390 o aelodau o staff eu swyddi.