Mae dyn 48 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yng Nglyn Ebwy brynhawn dydd Sadwrn.

Tarodd tri char yn erbyn ei gilydd ar yr A4046 am oddeutu 1 o’r gloch, a chafodd un o’r gyrwyr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Cafodd dynes oedd yn gyrru un o’r ceir eraill ei chludo i’r ysbyty yn Y Fenni, ond mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.