Llŷr Gruffydd
Mae Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru wedi beirniadu bwriad Prifysgol Bangor i gau’r Ysgol Addysg Gydol Oes, ac yn galw am ymgynghoriad llawn ar ddyfodol yr adran.

Mae Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru yn bryderus fod y penderfyniad yn debyg o gael effaith sylweddol.

“Mae’r newyddion am fwriadau’r Brifysgol i gau’r Ysgol Dysgu Gydol Oes ynghyd â dau gwrs arall yn bryderus,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Cyn i’r Brifysgol fynd ymhellach mae’n rhaid iddyn nhw gynnal ymgynghoriad llawn gyda phawb sydd ynghlwm â’r Ysgol a’r cyrsiau yma. Wedi’r cyfan mae’r penderfyniad yn debygol o gael effaith sylweddol ar fyfyrwyr, staff, a’r gymuned.”

Mae’r Ysgol Addysg Gydol Oes ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys un Aelod o staff llawn amser a 18 aelod o staff dros dro sy’n gweithio mewn cymunedau ar hyd a lled gogledd Cymru.

Fe fydd colli’r Ysgol Addysg Gydol Oes yn ergyd i Ogledd Cymru, yn ôl Llŷr Gruffydd:  “Mae’r Ysgol Dysgu Gydol Oes yn rhoi cyfle i draws doriad o’r gymdeithas gael mynediad i Addysg Uwch, a hynny yn agosach i’w cartrefi, gyda modiwlau yn cael eu dysgu o Gaergybi i Fae Colwyn ac i lawr i Benrhyndeudraeth. Bydd colli’r Ysgol yn ergyd i ogledd Cymru.”

Beth yw pwynt Prifysgol Bangor?

Un arall sy’n bryderus ynghylch y cynlluniau yw’r darlithydd o Lan Ffestiniog, Selwyn Williams. Mae’n galw ar y Brifysgol i ddychwelyd i’w phwrpas gwreiddiol o wasanaethu’r gymuned leol.

Mae’r darlithydd yn dadlau fod y cynlluniau i newid y ddarpariaeth addysg gydol oes yn codi cwestiwn dros ddiben presennol Prifysgol Bangor: “Mae hyn yn codi cwestiynau sylfaenol beth ydi pwrpas Prifysgol Bangor. Rhan o swyddogaeth ganolog yw gwasanaethu trigolion a chymunedau gogledd Cymru.”

Mae Selwyn Williams hefyd yn tynnu sylw at safleoedd Prifysgol Bangor mewn gwledydd eraill: “Mae yna gampws yn Llundain a champws yn China sy’n iawn, ond mae yna gwestiynau am ei rôl yn y gymuned yma yn enwedig gan gofio ei hanes pan sefydlwyd gan arian y chwarelwyr.

“Syndod a thristwch oedd clywed yn ddiweddar bod y Brifysgol yn ystyried cau’r Ysgol Dysgu Gydol Oes a hyn heb drafod y mater gyda staff na myfyrwyr yr Ysgol, nac yn ehangach gyda sefydliadau a chyrff eraill a’r cyhoedd yn gyffredinol.

“Mae yna draddodiad hir o addysg ar gyfer y gymuned a choleg ar gyfer cymunedau gogledd Cymru. Mae colli hynny yn fater hollol sylfaenol a dyna ydan ni’n gofyn i bobl bwyso ar y coleg i feddwl o ddifrif beth ydi ei rôl hi rŵan.”

Ymateb y Brifysgol

Wrth ymateb ar ran Prifysgol Bangor, dywedodd y Dirprwy i’r Is-ganghellor, Yr Athro David Shepherd: “Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn ceisio adnabod ffyrdd gwahanol o ddefnyddio’n hadnoddau. Yn y cyd-destun hwn, mae’r Brifysgol yn ystyried ffyrdd newydd posib o ddarparu Addysg i Oedolion.

“Rydym yn archwilio dulliau newydd o ddarparu’r rhaglenni hyn gyda Grŵp Llandrillo Menai a thrwy ffyrdd mewnol eraill. Ein nod yw sicrhau parhad y ddarpariaeth i fyfyrwyr presennol a pharhad y rhaglenni ar gyfer y dyfodol.”