£5 newydd
Nid yw perchennog bwyty fegan yng Ngwynedd yn fodlon derbyn y papur pum punt newydd am ei fod yn cynnwys braster anifeiliaid.

Mae 130,000 wedi arwyddo deiseb yn galw ar Fanc Lloegr i beidio defnyddio cynnyrch anifeiliaid.

Ac mae perchennog bwyty Voltaire ym Mangor ymysg y gwrthwynebwyr.

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd Rachael Phoenix: “Yr ydym wedi penderfynu peidio derbyn papurau arian pum punt newydd yn Voltaire, a hynny er mwyn gwneud safiad yn erbyn defnyddio braster anifeiliaid yn ein cynnyrch bob dydd.

“Yr ydym yn ddiolchgar i’n cwsmeriaid gwych sydd wedi cefnogi ein penderfyniad.

“Yr ydym yn gobeithio na fydd hyn yn achosi unrhyw anghyfleuster.”