Vaughan Gething Ysgrifennydd Iechyd Cymru
Bydd myfyrwyr sy’n astudio i fod yn nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn dal yn gymwys i gael bwrsari yng Nghymru.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau y bydd y cynllun dal ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru rhwng 2017 a 2018.

Bydd y cynllun ariannol, sy’n cael ei roi ar y sail bod yr unigolyn yn ymrwymo i aros yng Nghymru i weithio am ddwy flynedd, yn dod i ben yn Lloegr.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun tebyg i feddygon iau yng Nghymru ychydig wythnosau yn ôl, i fynd i’r afael â’r prinder gweithwyr iechyd sy’n gweithio yma.

Cadw gweithwyr iechyd yng Nghymru

“Er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym y gweithlu sydd ei angen arnom yng Nghymru, rwy’n credu ei bod yn bwysig bod unrhyw fuddsoddiad ychwanegol a wneir mewn hyfforddi a datblygu yn cael ei gyfuno â chyfle i weithio yng Nghymru a bod y rhai sy’n elwa o’r cynllun yn ymrwymo i wneud cyfraniad yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd trefniadau hirdymor i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio pynciau cysylltiedig ag iechyd yn cael eu hystyried ar y cyd ag argymhellion yr adolygiad annibynnol ar ariannu addysg uwch a chyllid myfyrwyr a arweiniwyd gan yr Athro Diamond.

“Ry’n ni’n cymryd camau cadarnhaol i ddenu mwy o weithwyr iechyd proffesiynol o Gymru a gweddill y DU i i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru.  Byddwn ni’n parhau i fuddsoddi yn addysg a hyfforddiant y rheini sy’n dymuno gweithio yn y gwasanaeth iechyd.”