Enghraifft o hunan-niweidio (Hendrike CCA3.0)
Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y plant a phobol ifanc sy’n cael eu trin am hunan-niweidio yng Nghymru nag yn Lloegr – ac mae’r cynnydd dair gwaith yn uwch yng Nghymru.

Yn ôl yr ystadegau a gasglwyd gan yr elusen ddiogelu plant, yr NSPCC, roedd cynnydd o 14% wedi bod yng Nghymru a Lloegr mewn tair blynedd ond rodd y cynnydd yn 41% wedi bod yng Nghymru ar phen ei hun.

Roedd hynny wedi ei seilio ar ystadegau pedwar o’r chwech bwrdd iechyd lle mae ysbytai gydag adrannau brys – doedd dau o’r byrddau yn yr ardaloedd mwya’ trefol ddim wedi ateb.

Yn ôl pennaeth yr NSPCC yng Nghymru, fe ddylai’r ystadegau ysgwyd pobol sy’n poeni am iechyd pobol ifanc.

Y manylion

Gan fod y ffigurau’n ymwneud â phedwar o chwech Bwrdd Iechyd, mae’r ystadegau gwirioneddol yn debyg o fod yn uwch eto.

  • Roedd o leia’ 1,193 o blant a phobl ifanc wedi cael eu trin yn ysbytai Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ am hunan niweidio, sy’n gynnydd o 350 o gymharu â’r ffigwr dair blynedd yn ôl.
  • Dros y tair blynedd ddiwethaf mae cyfanswm o 3,086 o blant gael eu trin mewn ysbytai yng Nghymru am hunan-niweidio.

Y ddau Fwrdd Iechyd oedd heb roi ystadegau oedd Byrddau Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan a does dim adran frys yn ysbytai Bwrdd Iechyd Powys.

Pobol ifanc rhwng 13 a 17 sydd fwyaf tebygol o gael eu trin yn yr ysbyty am hunan niweidio ac yn aml maen nhw’n brifo’u hunain trwy greithio eu cyrff, cymryd gormodol o dabledi neu losgi eu hunain.

Pwysau bywyd modern

“Mae’n hanfodol ein bod yn ymateb i’r ffaith bod nifer cynyddol o blant yn methu a delio gyda phwysau a gofynion bywyd modern i’r fath raddau eu bod yn gwneud difrod erchyll iddyn nhw eu hunain,” medda Des Mannion Pennaeth NSPCC Cymru.

“Mae nifer ddychrynllyd o blant a phobol yn eu harddegau yng Nghymru yn cael eu gyrru i niweidio’u hunain wrth geisio delio gyda theimladau, tensiynau a gofid yn eu bywydau.

“Dylai pawn sy’n poeni am les y genhedlaeth iau gael eu hysgwyd i weithredu o wybod bod gwelyau ysbyty yn llawn o bobol ifanc sy’n galw am help.