Mary Richards
Mae darlithwraig mewn Astudiaethau ar Dir yng Ngholeg Sir Gâr yn eillio’i phen er mwyn codi arian at Gymorth Canser Macmillan.
Mae Mary Richards yn rhedeg Fferm y Llandre yn Llangyndeyrn, ac fe fydd yn eillio’i gwallt yn sgubor y fferm ar Ionawr 13 fel rhan o ymdrech i godi arian er cof am ei mam, Morina, a fu farw pan oedd Mary yn blentyn.
Mae ei ffrind gorau hefyd wedi cael triniaeth mastectomi ar ôl cael gwybod ei bod yn dioddef o ganser y fron.
Penderfynodd hi fynd ati i godi arian fel rhan o ymgyrch ‘Brave the Shave’.
“Rwy’n eillio fy mhen i’r rheiny nad oedd dewis ganddyn nhw,” meddai Mary Richards, “ac i Gymorth Canser Macmillan oherwydd bod pobl ddewr sy’n agos i mi wedi cael eu heffeithio.
“Mae’n ddyletswydd arnom i fyw bob dydd hyd eithaf ein gallu ac i wneud hyn er anrhydedd y rheiny y cafodd edau eu bywyd ei dorri’n fyr.”