Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod dros £1 biliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi cael eu neilltuo i gynlluniau ledled Cymru, gyda £800 miliwn ar ôl i ddod cyn y flwyddyn 2020.

Cafodd 60 y cant o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ei neilltuo erbyn diwedd mis Tachwedd gyda arian wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau yn cynnwys prentisiaethau Cronfa Fusnes Cymru, Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd a Pharc Gwyddoniaeth Menai.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, “Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos sut rydym yn parhau i fuddsoddi cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynnig sefydlogrwydd i fusnesau a phobl ar draws Cymru, a helpu economïau lleol a’r farchnad lafur.”

“Rydyn ni nawr wedi buddsoddi £1.16bn o Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2014 -20 a gafodd eu dyrannu i Gymru”

“Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn ein cais llwyddiannus i Lywodraeth Prydain am wariant estynedig ar gyfer pob buddsoddiad mewn prosiectau a gafodd eu cymeradwyo cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Toriadau

 Mae Mark Drakeford yn dadlau na ddylai Cymru golli ar arian Ewropeaidd er fod y wlad wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd: “Pleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd ond ni wnaeth y genedl bleidleisio o blaid toriadau gan Lywodraeth Prydain i fuddsoddiad yng Nghymru.”

“Ni ddylai Cymru golli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit. Rydyn ni’n cynnal trafodaethau uniongyrchol â Llywodraeth Prydain i sicrhau bod polisïau a chyllid sydd wedi’u datganoli – fel cyllid rhanbarthol yn y dyfodol – yn dod yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru oddi wrth yr UE. Rhaid inni beidio â chymryd camau yn ôl o safbwynt datganoli.”

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-20, Julie Morgan,  “Mae’n hanfodol gweithio’n gyflym i fuddsoddi’r cyllid hwn mewn cynlluniau sy’n bodloni amcanion ein rhaglenni. Rhaid inni hefyd fanteisio i’r eithaf ar bob cyfle i fusnesau, cymunedau a dinasyddion elwa ar gyllid yr UE cyn i’r DU adael yr UE.

“Fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni, byddaf i’n gwneud popeth y gallaf i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ac ar gael y gwerth gorau am arian o’r holl raglenni a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd

“Rwy’n hapus hefyd fod y Pwyllgor Monitro Rhaglenni yn mynd i gael y cyfle i drafod dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru. Rydyn ni’n parhau’n rhan weithredol o’r Undeb Ewropeaidd tan i’r Brydain adael ac rwy’n gobeithio y gall y trafodaethau hyn ddylanwadu ar y drafodaeth sydd ar y gweill ar draws yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn â dyfodol polisi rhanbarthol.”