Mae heddlu’n ymchwilio i ddamwain ffordd angheuol ger Magwyr yn Sir Fynwy.

Un beic modur oedd yn rhan o’r digwyddiad ger Canolfan Ddosbarthu Tesco, ar briffordd yr A4810 toc cyn 2 o’r gloch y bore, ddydd Mawrth, Tachwedd 29.

Cafodd dyn o ardal Bryste ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ond roedd wedi marw erbyn cyrraedd yno. Mae wedi’i enwi Robert William Freeman, 35 oed.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i dystion eu ffonio ar y rhif 101.