Andrew RT Davies
Mae ffrae wedi codi ymysg rhai o bleidiau Cymru ynglŷn â phwy ddylai lunio cynllun cymorthdaliadau newydd i ffermwyr Cymru pan ddaw’r Polisi Amaeth Cyffredin i ben ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Andrew RT Davies, Llywodraeth Prydain ddylai gymryd y cyfrifoldeb, ond mae Simon Thomas AC Plaid Cymru a llefarydd ar faterion gwledig wedi’i gyhuddo o geisio “canoli pwerau yn San Steffan”.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu â chynnig unrhyw sicrwydd i ffermwyr sydd â’u ffordd o fyw ar y dibyn,” meddai Simon Thomas gan dynnu sylw fod y llywodraeth wedi gwarantu’r taliadau tan 2020, ond heb gynnig ateb wedi hynny.

“Gyda’r agwedd hyn yn cael ei fabwysiadu gan y Llywodraeth yn San Steffan, mae’n hurt ac yn afresymol bod Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn honni y byddai cymorthdaliadau ffermio yn cael eu gweinyddu’n well o Lundain,” meddai.

“Does dim gwadu nad oes gan Lywodraeth Lafur Cymru lawer i’w gynnig fel ateb,” ychwanegodd cyn dweud: “ond nid canoli’r pŵer yn San Steffan yw’r ateb.”

‘Mwy o hyder…’

Ar ddiwrnod cynta’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd dywedodd Andrew RT Davies, “mae yna gred ymysg y rhan fwyaf o ffermwyr a busnesau gwledig nad oes ganddyn nhw ffydd yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i ddarparu pecyn o gymorth a fyddai’n addas – fe fyddai ganddyn nhw fyw o hyder yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud hynny.”

“Dyw hyn ddim yn ymwneud â chrafangu cyfrifoldebau’n ôl i San Steffan,” meddai.

“Mae’n ymwneud ag adnabod y rôl bwysig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig i siapio polisïau ar gyfer amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig gyfan.”

‘Trafodaeth’

Ychwanegodd Andrew RT Davies wrth golwg360  y byddai am weld cynllun polisi amaeth cyffredin gyfystyr â’r un gan yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei lunio gan y Deyrnas Unedig a’i gefnogi gan y gweinyddiaethau datganoledig.

Dywedodd y byddai am “wella” ar y cynllun hwnnw hefyd gan gyflwyno polisïau’n ymwneud â chynhyrchu bwyd, gwella’r amgylchedd a chreu cyfleoedd ar gyfer pobol ifanc i droi at fyd amaeth.

“Mae’n bwysig i ddechrau’r drafodaeth nawr, fel bod cynllun mewn lle gyda ni pan fydd ei angen arnom,” meddai wrth golwg360.

“Ar hyn o bryd mae’r polisïau’n cael eu gwneud ym Mrwsel… felly’r hyn dwi’n awgrymu sydd fwyaf addas i amaethyddiaeth a’r economi wledig yw polisi amaeth cyffredin ar gyfer y Deyrnas Unedig sy’n cael ei gytuno a’i gefnogi gan y gweinyddiaethau datganoledig.”

 

Amaeth wedi’i ddatganoli

Cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod amaethyddiaeth yn fater sydd wedi’i ddatganoli ers 1999.

“Pan fydd fframweithiau rheoleiddio’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben, lle’r gweinyddiaethau datganoledig fydd hi i benderfynu sut i ddatblygu unrhyw fframwaith ar draws y Deyrnas Unedig gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

“Yn dilyn canlyniad y refferendwm, rydw i wedi cwrdd â nifer o ffermwyr, undebau a chynrychiolwyr o’r diwydiant gan gynnal cyfres o drafodaethau ynglŷn â goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Lesley Griffiths.

“Awydd fach yr ydw i wedi’i ganfod i San Steffan ail-gymryd cyfrifoldeb dros amaethyddiaeth yng Nghymru,” meddai.

“Yn wir, mae llawer wedi dangos parodrwydd i weithio gyda mi i ddatblygu polisïau amaeth unigryw i Gymru, yn ymateb i anghenion unigryw a diddordebau’r cymunedau ffermio yng Nghymru.”