Safle tirlenwi
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn codi treth ar wastraff sy’n cael ei waredu yn anghyfreithlon, er mwyn mynd i’r afael a’r broblem.

Bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyflwyno mewn deddf newydd sy’n mynd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Dyma’r ail dreth i gael ei datganoli i Gymru a bydd yn dod i rym fis Ebrill 2018 ymlaen.

Fel y dreth dirlenwi bresennol, treth ar waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi fydd y dreth hon. Gweithredwyr safleoedd tirlenwi fydd yn gyfrifol am ei thalu ac fe fyddan nhw’n trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff.

‘Ar flaen y gad’

Ar hyn o bryd, mae 25 o safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn nwylo 20 o weithredwyr safleoedd tirlenwi ac mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd y dreth newydd yn codi £27m yn ystod 2018-19.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac yn osgoi gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon.

“Am y tro cyntaf mewn 800 mlynedd, ry’n ni’n datblygu ac yn rhoi system dreth ar waith sy’n diwallu anghenion penodol ein gwlad a’n pobol,” meddai’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford.

“Drwy gyflwyno’r dreth gwarediadau tirlenwi yn lle’r dreth dirlenwi o fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar yr arian a godir gan y dreth hon. Mae Cymru ar flaen y gad o ran ei pholisi gwastraff ac mae treth gwarediadau tirlenwi yn elfen bwysig ar gyfer cyrraedd y nod o Gymru ddiwastraff.”

Bydd cyfraddau’r dreth yn cael eu cyhoeddi yn nes at fis Ebrill 2018 er mwyn rhoi ystyriaeth i amgylchiadau a blaenoriaethau economaidd y pryd.