Mae’r Gwasanaeth Tân wedi diffodd tân mewn adeilad pedwar llawr yng Nghasnewydd.
Cawson nhw eu galw i adeilad yn Stow Hill am oddeutu 4.10 y bore ma.
Mae’r adeilad wedi cael ei ddifrodi’n ddifrifol, ac roedd peth difrod i adeiladau cyfagos.
Mae ymchwiliad ar y gweill.