Bydd yn rhaid i ŵr busnes o Ynys Môn dalu bron i £4,000 ar ôl diystyru rheolau cynllunio.

Yyn Llys Ynadon Caergybi, cafwyd Brian Warner, o Pentyddyn, Llanallgo, yn euog am beidio â chydymffurfio â Rhybudd Gorfodaeth Cynllunio yn yr Old Coal Yard, Dulas.

Roedd y safle’n Dulas yn cael ei ddefnyddio i storio, prosesu a gwerthu coed yn groes i reoliadau cynllunio.

Plediodd Mr Warner yn euog a chafodd ddirwy o £1,750.00 a hefyd bydd yn rhaid iddo dalu £2,000 mewn costau a gordal dioddefwyr o £175.00 gan ddod â’r cyfanswm i £3,925.00.

Rhybudd gorfodaeth

Ar ôl derbyn cwyn ar 25 Tachwedd 2014, bu swyddogion Cynllunio ac Iechyd yr Amgylchedd o’r Cyngor yn ymchwilio i’r mater. Roedd yn amlwg bod rheolau cynllunio’n cael eu torri ar y tir a hynny’n groes i Bolisïau’r Cynllun Lleol a Chenedlaethol.

Rhoddwyd Rhybudd Gorfodaeth Cynllunio ar y tir er mwyn sicrhau ei fod yn stopio cael ei ddefnyddio ar gyfer storio, prosesu a gwerthu coed erbyn 28 Rhagfyr 2015.

Fodd bynnag, wnaeth Mr Warner ddim cydymffurfio â gofynion y Rhybudd Gorfodaeth Cynllunio sydd yn gyfystyr â throsedd o dan Ddeddf Cynllunio Thref a Gwlad 1990.

Eglurodd Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Môn, Dylan Williams, “Daeth yr erlyniad wedi cyfnod hir o drafodaethau a gynhaliwyd i geisio datrys y broblem mewn modd cyfeillgar. Yn anffodus, bu’r trafodaethau yma’n aflwyddiannus a doedd dim dewis ond erlyn y gŵr yma.”

Ychwanegodd, “Mewn sefyllfaoedd fel hyn, dilyn camau cyfreithiol neu erlyn yw’r dewis olaf. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Cyngor Sir ddangos ei ymrwymiad tuag ddiogelu’r amgylchedd lleol drwy gymryd camau yn erbyn y rhai sydd yn diystyru rheolau cynllunio.”