Mae dyn 23 oed wedi’i garcharu am drywanu ei gariad naw gwaith gyda chyllell yn ei fflat yng Nghaerdydd.
Roedd Ashley Dawe wedi gofyn i’w gyn-gariad Melissa Parr a oedd hi wedi cusanu dyn arall. Ar ôl dweud ei bod, fe wnaeth Ashley Dawe ei chicio yn ei phen cyn mynd i nôl cyllell o’r gegin i’w thrywanu.
Fe glywodd y cymdogion lais merch yn sgrechian ar 19 Chwefror eleni a gweld gwaed ar y ffenestri.
Ar ôl yr ymosodiad, fe redodd i ffwrdd o fflat Melissa Parr, ond fe wnaeth yr heddlu ei ddal yn ddiweddarach.
Dedfryd
Roedd gan Ashley Dawe sawl cyhuddiad arall yn ei erbyn o ymddygiad treisgar yn erbyn ei gariadon.
Dyfarnodd y barnwr Eleri Rees yn Llys y Goron Caerdydd y byddai’n cael dedfryd o 14 mlynedd, sy’n debygol o olygu y bydd yn treulio naw mlynedd yn y carchar a phum mlynedd ar barôl.