Kirsty Williams, Llun: Gwefan y Democratiaid Rhyddfrydol
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynigion Adroddiad Diamond i gyllid addysg uwch Cymru, ac wedi ychwanegu rhai newidiadau hefyd.

Ym mis Medi, fe wnaeth yr Artho Ian Diamond gyhoeddi adroddiad yn awgrymu y dylai myfyrwyr gael grantiau sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol i gyfrannu at gostau byw, yn hytrach na grantiau ffioedd dysgu.

Cyhoeddodd Kirsty Williams heddiw y bydd myfyrwyr o deuluoedd sy’n ennill mwy na £59,200 y flwyddyn yn gymwys ar gyfer y cymhorthdal o £1,000 yn unig.

Roedd adroddiad Diamond wedi gosod y trothwy hwnnw ar £81,000, ond mae cyhoeddiad y Llywodraeth yn gynnydd o £8,000 o gymharu â’r trefniadau presennol.

‘Prawf modd’

Fe fydd modd i fyfyrwyr eraill wneud cais am grantiau ar sail prawf modd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd hyn yn golygu y bydd 70% o fyfyrwyr o Gymru yn gymwys i gael rhyw fath o gymorth grant sy’n seiliedig ar brawf modd, yn ogystal â grant cyffredinol gwerth £1,000.

Bydd tua 35% yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth grant, ac mae disgwyl i’r newidiadau gael eu cyflwyno erbyn y flwyddyn academaidd 2018/19.

Mae’r grantiau hefyd yn cynnwys cyrsiau ôl-radd a rhan amser, sy’n wahanol i’r drefn ar hyn o bryd oedd yn darparu ar gyfer cyrsiau israddedig yn unig.

Ac fe fydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael ei gyllido’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru bellach, yn hytrach na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Hefcw).

‘Mwy o fyfyrwyr’ i fynd i’r Brifysgol

“Rydym yn bwriadu cyflwyno’r system fwyaf hael a blaengar sydd ar gael yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

“Rydym wedi edrych yn ofalus ar argymhellion yr Athro Diamond ac wedi derbyn y mwyafrif helaeth ohonynt, yn ogystal ag ymrwymo i ystyried rhai o’r cynigion eraill ymhellach.

“Rydym wedi penderfynu cyfyngu ar y cynnydd i’r trothwy uchaf o ran incwm aelwydydd ar gyfer cymorth sy’n seiliedig ar brawf modd i £59,200, gan ein bod o’r farn y byddai hyn yn synhwyrol ac yn ddoeth o ystyried y rhagolygon ariannol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Esboniodd y bydd costau i weithredu’r system, ond bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio bydd £40 miliwn yn cael ei roi yn ôl i’r sector addysg uwch ac addysg bellach ar ôl i’r system newydd fod yn ei lle am bedair/pum mlynedd.

Dywedodd hefyd ei bod yn rhagweld bydd y system yn golygu bod 10% yn fwy o fyfyrwyr o Gymru yn mynd i brifysgol yn y flwyddyn gynta mae’n cael ei gyflwyno – 5% yn fwy bob blwyddyn wedyn.

‘Teimladau cymysg’

 

Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM) wedi dweud eu bod yn derbyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw “â theimladau cymysg.”

“Er ein bod yn falch o weld ymrwymiad i ganfod datrysiad hirdymor a chynaliadwy i gyllido ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru, buasem yn siomedig pe bai’r trothwy’n cael ei ostwng i £59,200,” meddai llefarydd ar ran UCM.

“Gyda chostau byw’n cynyddu a’r posibilrwydd o gynnydd pellach yn dilyn ‘Brexit’, nid yw pobol sy’n byw mewn cartrefi sydd ag incwm dros £59,000 bob amser yn byw’n foethus, a gallai hyn olygu bod rhai teuluoedd yn ei chael yn anodd cynnal un neu fwy o blant yn byw oddi cartref.”