Michaela Lawrence ar y chwith a Kylisha Barrett ar y dde. (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod y ddwy ferch yn eu harddegau a fu ar goll ers dydd Gwener ddiwethaf wedi’u canfod yn ddiogel.

Cafodd yr heddlu wybod fod Michaela Lawrence 15 oed a Kylisha Barrett 16 oed wedi mynd ar goll o ardal Glyn Ebwy ddydd Gwener, Tachwedd 18.

Maen nhw wedi cadarnhau heddiw fod y ddwy wedi’u canfod yn ddiogel.