Russell Sherwood (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth am ddyn 69 oed maen nhw’n credu iddo fynd ar goll y bore yma.

Gadawodd Russell Sherwood ei gartref yng Nghil-ffriw ger Castell-nedd am oddeutu 6.15yb yn ei gar Ford Focus arian, ac roedd yn fwriad ganddo deithio i Ewenni ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Ond wnaeth e ddim cyrraedd pen y daith, ac mae’r heddlu wedi dechrau chwilio amdano.

Mae lle i gredu ei fod e wedi cyrraedd Stormy Down yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.