Mae cyn-weithiwr cymdeithasol wedi’i gwahardd gan Gyngor Gofal Cymru am gynnal “perthynas amhriodol â thri dyn ifanc a deg o bobol fregus” wrth ei gwaith yng ngogledd Cymru.

Yn dilyn gwrandawiad saith niwrnod yn yr Wyddgrug, daeth panel o gynrychiolwyr Cyngor Gofal Cymru i’r casgliad bod Theresa Moore Roberts wedi “datblygu perthnasau a oedd yn sicr yn croesi ffiniau proffesiynol.”

Am gyfnod o 26 mlynedd bu’r ddynes yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol i dri chyflogwr gwahanol, sef Cyngor Sir Clwyd, Cais Cyfyngedig ac Arch Initiatives rhwng 1989 a 2015.

Penderfyniad i wahardd

Yn ystod y gwrandawiad, fe gyfaddefodd Theresa Moore Roberts ei bod wedi datblygu perthynas agos gyda phobol fregus, ond doedd hi ddim yn derbyn ei bod wedi torri safonau ymarfer proffesiynol.

Fe benderfynodd y pwyllgor ei gwahardd gyda’r Cadeirydd yn ychwanegu: “ystyriodd y pwyllgor fod yna risg uchel o’r un peth yn digwydd eto, oherwydd bod yr unigolyn cofrestredig wedi bod yn ymddwyn yn yr un ffordd ers blynyddoedd lawer.”

‘Camddefnyddio’i swydd’

Ychwanegodd Gerry Evans, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Safonau Proffesiynol y Cyngor Gofal, “roedd Ms Roberts wedi camddefnyddio’i swydd fel gweithiwr cymdeithasol dros gyfnod hir iawn o amser ac wedi defnyddio ei swydd ar gyfer ei dibenion ei hun ar draul y dynion ifanc roedd hi’n gysylltiedig â nhw.”

“Gweithiwr cymdeithasol gwirioneddol ydi un sydd â’r sgil a phroffesiynoldeb i ddatblygu perthnasau gydag unigolion sy’n wirioneddol gefnogol ac effeithiol, ond sydd ddim yn croesi’r ffin lle  maent yn ecsbloetio’r bobol.”