Mae dyn o Ferthyr Tudful wnaeth dargedu dau fachgen yn eu harddegau drwy’r gêm gyfrifiadurol Minecraft, yn wynebu carchar.

Fe blediodd Adam Isaac, 22 oed, yn euog i chwe chyhuddiad o achosi neu annog puteindra neu bornograffi plant, cynnal gweithred rywiol o flaen plentyn a bod â lluniau anweddus yn ei feddiant.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod y troseddau wedi’u gwneud rhwng Awst 2015 ac Ionawr 2016 yn erbyn dau fachgen 13 ac 14 oed.

Dywedodd y barnwr, Richard Twomlow, y bydd adroddiad cyn-ddedfryd yn cael ei gynnal yn awr ac nad yw hyn “yn arwydd o’r math o ddedfryd allwch ddisgwyl. Mae’n edrych yn debyg mai dedfryd carchar fydd e,” meddai.

Cafodd Adam Isaac o Gefn Coed ym Merthyr Tudful ei ryddhau ar fechnïaeth tan ei ddedfryd ar Ragfyr 16.