Andrew RT Davies
Mae Arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, wedi croesawu’r newyddion fod clybiau Uwch Gynghrair yr Alban wedi dechrau trafod neilltuo mannau diogel i sefyll mewn meysydd pêl-droed heddiw.
Ac mae Andrew RT Davies wedi galw am i’r un peth ddigwydd yng Nghymru.
Mae treialon yn digwydd yn Stadiwm Celtic Park yn yr Alban ar hyn o bryd, gan sbarduno galwad gan Andrew RT Davies i fabwysiadu cynllun peilot tebyg yng Nghymru a Lloegr.
Mae Andrew RT Davies wedi galw am fannau diogel i sefyll mewn stadiwms, gyda chymdeithasau cefnogwyr o brif glybiau Cymru, Abertawe, Dinas Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn gefnogol i’r ymgyrch.
Cafodd Mesur ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi lleoedd diogel i sefyll.
Dywedodd Andrew RT Davies: “Y mae’n amlwg fod y farn ymhlith y clybiau wedi symud dros y blynyddoedd diwethaf, a dw i’n synhwyro awydd ar lefel Llywodraeth Prydain fod Gweinidogion yn barod i drafod y mater.”
Mae’n croesawu’r ffaith fod trafodaeth wedi dechrau ar y mater: “Dw i’n falch ofnadwy fod llefydd diogel i sefyll wedi gwneud hi ar yr agenda ymhlith clybiau Uwch Gynghrair.
“Mae’r ymgyrch wedi ennill cefnogaeth prif glybiau Cymru, ond mae angen consensws ymhlith clybiau’r Uwch Gynghrair.”