Mae’r sector cwrw a thafarndai yng Ngogledd Caerdydd yn rhoi £37 miliwn i’r economi lleol, yn ôl astudiaeth newydd.

Yn ôl cwmni annibynnol Oxford Economics, a wnaeth y gwaith ymchwil ar ran y Gymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydeinig, mae hefyd yn cynnal 1,370 o swyddi yn yr ardal.

Ledled gwledydd Prydain, mae’r diwydiant yn cefnogi bron i 900,000 o swyddi ac yn ychwanegu £23 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig.

Yn ôl Prif Weithredwr y Gymdeithas Cwrw a Thafarndai, Brigid Simmonds, mae’r data’n dangos pwysigrwydd y sector i gymunedau lleol a’r economi.

“Mae effaith economaidd cwrw a thafarndai ar economi’r Deyrnas Unedig yn amlwg i bawb, ond ar lefel leol mae gan y nifer fawr o bobol sy’n gwneud bywoliaeth o’r diwydiant effaith anferthol.

Yr un oedd neges Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, Craig Williams, sy’n dweud bod y sector yn “hanfodol” i’r economi leol.

“Yng Ngogledd Caerdydd, gallwn ni ddim tanseilio pwysigrwydd ein tafarndai a’r sector cwrw. Maen nhw’n rhoi ffocws cymunedol a swyddi i staff a chyflenwyr,” meddai.

“Fel mae’r ffigurau hyn yn dangos, mae’r sector yn chwarae rôl hanfodol yn hybu’r economi leol.”