Ysgol Pentrecelyn, Rhuthun Llun: Gwefan yr ysgol
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi pleidleisio heddiw i gadw Ysgol Pentrecelyn yn Rhuthun ar agor fel ysgol Gymraeg categori 1 gyda’r ysgol i barhau ar yr un safle.

Daw hyn yn dilyn argymhelliad i roi’r gorau i’r cynllun dadleuol o uno’r ysgol wledig honno gydag ysgol ddwyieithog yr Eglwys yng Nghymru Llanfair Dyffryn Clwyd ar safle newydd.

Bu nifer yn ymgyrchu yn erbyn y cynllun gwreiddiol, ac fe arweiniodd hyn at Adroddiad Barnwrol yn yr Uchel Lys ym mis Awst a ddywedodd bod Cyngor Sir Ddinbych yn “ddryslyd anobeithiol.”

Dyna oedd y tro cyntaf erioed i lys ymyrryd mewn achos i gau ysgol oherwydd methiant i asesu’n ddigonol beth fyddai effaith cau’r ysgol ar yr iaith Gymraeg.

Bellach, mae’r Cyngor wedi gwneud tro pedol gan gymeradwyo i gadw Ysgol Pentrecelyn ar agor ar yr un safle ac i barhau fel ysgol categori iaith 1.

Maent hefyd wedi cytuno i adeiladu ysgol newydd ar gyfer ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd a fydd yn ysgol categori iaith 2.

‘Dwys ystyried’

 

Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg: “Nid oedd canlyniad yr adolygiad barnwrol yn feirniadol o amcanion y cynnig gwreiddiol ond mi gafodd y penderfyniad ei ddiddymu ar sail proses.

“O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi dwys ystyried y sefyllfa.  Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r ddwy gymuned ysgol ac mae hi’n hollol glir nad oes unrhyw awydd i ddychwelyd i’r cynigion gwreiddiol.

“Roedd y Cyngor hefyd yn sensitif i’r ffaith nad oedd eisiau peryglu unrhyw raniadau pellach yn y  gymuned ac y dylai’r sefyllfa yn Ysgol Pentrecelyn barhau.

“Mewn perthynas ag Ysgol Llanfair, mae angen dybryd i fuddsoddi mewn ysgol newydd, dwy ffrwd, categori 2 yn yr ardal. O ganlyniad, bydd y Cyngor yn creu cynllun busnes, gyda’r bwriad o gyflwyno cais am ysgol newydd. Byddwn yn defnyddio’r un broses ar gyfer y buddsoddiad yn yr ysgol newydd ac a gymerwyd gydag adeiladu ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras, Stryd y Rhos a Charreg Emlyn.

“Ein blaenoriaeth yn hyn oll yw darparu’r addysg orau posib ar gyfer ein plant ac rydym yn hollol ymrwymedig i hyn”.

Croesawu

Mae’r penderfyniad wedi ei groesawu gan AC Plaid Cymru dros y Gogledd, Llyr Gruffydd.

Meddai: “Mae adolygiad barnwrol costus wedi ei ennill gan rieni oedd yn gwrthwynebu israddio statws Cymraeg ysgol Pentrecelyn ac rwy’n falch bod arweinwyr y cyngor wedi cydnabod rhinweddau dadleuon y rhieni.

“Ceiff ysgol newydd yn Llanfair hefyd fynd yn ei blaen nawr ac yn ei hanfod mae’r ddwy gymuned wedi cadw elfennau addysg lleol sy’n bwysig iddyn nhw.”

‘Gwrthod gwrando’

Dywedodd llefarydd ar ran Ymgyrch Pentrecelyn: “Mae’n anffodus iawn fod yn rhaid inni gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyngor. Mae’r awdurdod wedi gwrthod gwrando ar rieni ac, o ganlyniad, rydym wedi gorfod herio’r cynllun. Penderfynodd yr Uchel Lys ei fod yn broses anghyfreithlon.

“Wedi’r newyddion heddiw rydan ni’n gobeithio y bydd y cyngor, sydd â record anffodus o anwybyddu dymuniadau cymunedol pan ddaw i addysg leol, wedi dysgu gwers. Doedd ’na ddim synnwyr yn y bwriad i israddio statws yr iaith Gymraeg mewn ysgol sy’n gwasanaethu un o ardaloedd fwyaf Cymraeg eu hiaith yn Sir Ddinbych.”