Mae “anghysondeb” yn y ffordd mae heddluoedd Cymru a Lloegr yn delio a chwynion, yn ôl Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).
Er bod nifer y cwynion wedi disgyn o 8% yn 2015/16, y cwymp cyntaf ers tair blynedd, roedd “cwymp mawr” mewn rhai lluoedd a “chynnydd sylweddol” mewn rhai eraill, yn ôl yr IPCC.
Prif ganfyddiadau’r adroddiad oedd:
- Bod nifer y cwynion wedi gostwng 8% i 34,247 yn 2015/16;
- Bod rhai lluoedd wedi dewis delio a 70% o gwynion trwy ddilyn trefn anffurfiol, ond bod eraill yn dewis dilyn proses ffurfiol mewn dros 70% o achosion;
- Ar y cyfan, dim ond 19% o apeliadau yn erbyn ymchwiliadau gafodd eu cymryd ymhellach – lle mae 41% o apeliadau sy’n cyrraedd yr IPCC yn cael eu harchwilio.
Dywedodd Cadeirydd yr IPCC, Anne Owers: “Rydym yn gwybod bod system gwynion yr heddlu yn or-gymhleth ac yn or-fiwrocrataidd a dyma un o’r rhesymau tu ôl i’r anghysondebau rhwng lluoedd.
“Mae’n annhebygol iawn bod proffil yr achosion mor wahanol, felly mae’n ymddangos mai loteri cod post yw hyn.”
Roedd Anne Owers yn croesawu’r Ddeddf Heddlu a Throsedd newydd sy’n cael ei chyflwyno gerbron Senedd Llywodraeth Prydain ar hyn o bryd.
“Mae’n gofyn am symleiddio’r system a’i wneud yn fwy hygyrch, gan hefyd ddarparu adolygiad annibynnol o holl ymchwiliadau cwynion gan luoedd heddlu lleol,” meddai.