Alun Wyn Jones - y chwaraewr gorau (Chris Jobling CCA2.0)
Cymru 24 Yr Ariannin 20

Fe lwyddodd Cymru i grafu trwodd yn erbyn yr Ariannin mewn gêm y dylen nhw fod wedi ei hennill yn llawer haws.

Ond roedd camgymeriadau gwirion ar adegau tyngedfennol a methiant i fanteisio ar gyfleoedd wedi costio’n ddrud.

Ddwywaith fe ildion nhw yn syth ar ôl sgorio gan roi cyfleoedd i’r Ariannin yn eu hymosodiadau prin.

Ond roedd ennill ar ôl pum colled yn ddigon, yn erbyn tîm sydd un yn uwch na nhw yn rhestr y byd.

Hanes yr ail hanner

Er hynny, fe gafodd Cymru’r dechrau gorau posib i’r ail hanner ar ôl cyfnod hir o bwyso ar ddiwedd y cynta’.

Fe lwyddodd Liam Williams i wasgu fodfedd trosodd ar y chwith ar ôl toriad gwych gan Dan Biggar a Halfpenny bron â chroesi ar y dde. Gyda chic Halfpenny, roedd hi’n 11-3 ar ôl 42 munuud.

O fewn pump, roedd yr Ariannin yn  ôl wedi i Moriarty roi cic gosb wirion wrth gamsefyll a’r Pumas yn torri’n hawdd trwy’r canol i Hernandez ddilyn cic a sgorio.

Roedd y gêm yn llawer closiach ond fe dorwyd yr ymrafael cyfartal gan gic gan y prop Gethin Jenkins o bawb a’r Ariannin yn ei chario tros yr ystlys.

Yr un peth eto

O’r sgarmes symudol fe gipiodd y mewnwr Gareth Davies y bêl a thwrio heibio tri i sgorio a rhoi cic hawdd i Halfpenny.

Pum munud arall ac roedd yr Ariannin yn gyfartal eto gyda chais tebyg i un Davies a’r mewnwr, Landrajo’n croesi. Fel gyda chais Liam Williams, roedd  yn agos ac roedd angen penderfyniad y dyfarnwr teledu. 18-17.

Fe wastraffodd Gareth Davies gyfle i ryddhau tri ar y chwith ond yn y chwarter ola’, fe lwyddodd Cymru i adfer eu rheolaeth yn y blaenwyr a chael dwy gic gosb yn erbyn un i gloi’r gêm.

Gwelliant

Yn ôl y sylwebwyr a’r chwaraewyr fel ei gilydd, roedd yna welliant o ran amddiffyn ac arafu gêm y gwrthwynebwyr ac, yn yr ail hanner, fe lwyddon nhw i dorri’r llinell.

Alun Wyn Jones, yr ail reng, oedd chwaraewr y gêm gyda pherfformiad pwerus ym mhob agwedd.

Hanner amser:

Cymru 6 Yr Ariannin 3

Fe aeth Cymru i mewn i’r hanner ar y blaen, ond yn siomedig.

Fe gawson nhw bron chwarter awr o bwysau ar ddiwedd yr hanner cynta’, ond heb fanteisio.

Er gwaetha cryfder yn y sgrym a’r lein a fflachiadau o allu unigol, doedd ganddyn nhw ddim o’r symudiadau i dorri amddiffyn yr Ariannin.

Hanes yr hanner

Y Pumas oedd wedi mynd ar y blaen ar ôl tri munud gyda chic gosb gan Sanchez ac fe gymerodd ddeg munud digon blêr a simsan i Gymru daro’n ôl trwy Leigh Halfpenny o flaen y pyst.

Y gwelliant mawr o gymharu â’r wythnos ddiwetha’ oedd gallu Cymru i arafu symudiadau’r Ariannin, yn benna’ trwy Sam Warburton, Alun Wyn Jones a Gethin Jenkins.

Roedd y ddau Williams, Liam a Scott, wedi dangos fflachiadau o ddychymyg a’r gallu i guro’u dynion ond y blaenwyr oedd yn pwyso fwya’.

Cymru’n pwyso

Ychydig wedi’r 20 munud, ar ôl cyfnod o gicio ynghanol cae a brwydro yn yr awyr, fe droiodd y gêm o blaid Cymru.

Aeth y bachwr Ken Owens o fewn dwylath i gais ar ôl rhuthr gan y pac wedi lein ac fe arweiniodd hynny yn y diwedd at gic arall i Halfpenny yn agos at y pyst.

Am weddill yr hanner, Cymru oedd yn rheoli’n llwyr ac fe fu cyfres o giciau cosb o dan y pyst a Chymru’n mynd am sgrym neu lein bob tro a dod yn agos sawl gwaith.

Ond doedd gan Gymru ddim symudiadau nac onglau annisgwyl i dorri’r amddiffyn.

Yn y diwedd, ar ôl rheoli’r sgrym a gyda Herrera, prop pen tynn y Pumas yn y gell gosb, fe lwyddodd yr Ariannin i chwalu sgrym gan Gymru ac atal y cyfle ola’ ar y chwiban hanner.