Stadiwm y Mileniwm (llun: Andrew King/CC 2.0)
Mae disgwyl i Gaerdydd fod dan ei sang heddiw gyda dwy gêm ryngwladol yn cael ei chynnal yn y brifddinas.

Y gyntaf fydd gêm rygbi’r Crysau Cochion yn erbyn yr Ariannin, mewn gêm dyngedfennol ar ôl cael eu llorio gan Awstralia o 32 i 8 yr wythnos ddiwetha’.

Mae pwysau ar y tîm cenedlaethol i roi perfformiad da ar ôl gêm mor siomedig, gyda’r mewnwr, Gareth Davies, yn dweud bod Cymru’n “barod i wneud yn iawn am golli.”

Cymru yw’r ffefrynnau i drechu’r Pumas, ar ôl ennill pedair o’i pum gêm ddiwethaf yn erbyn yr Ariannin.

Bydd y gêm rygbi’n dechrau yn Stadiwm Principality am 5:30 yr hwyr, gyda disgwyl miloedd o bobol yn y stadiwm ac yn nhafarndai’r ddinas i wylio’r cwbl.

Y bêl gron

Yn syth wedi hynny, bydd haid o gefnogwyr yn gwibio draw i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Serbia, sy’n dechrau am 7:45 yr hwyr.

Mae angen buddugoliaeth ar Gymru ar ôl dwy gêm gyfartal yn erbyn Awstria a Georgia yn ddiweddar.

Bydd Aaron Ramsey a Jonny Williams yn eu hôl ar gyfer y gêm yn dilyn anafiadau. Bydd y canolwr, Joe Allen yn ôl hefyd.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r ddau dîm chwarae yn erbyn ei gilydd ers 2014, pan gollodd Cymru o 6 i 1.

Mae Cymru’n drydydd yn eu grŵp, tra bod Serbia ar y brig.

Carfan Rygbi Cymru

Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams, Dan Biggar, Gareth Davies, Gethin Jenkins (capten), Ken Owens, Tomas Francis, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Carfan Pêl Droed Cymru

W Hennessey, D Ward, O Fôn Williams; B Davies, J Chester, J Collins, P Dummett, C Gunter, N Taylor, A Williams (capten), J Allen, D Edwards, E Huws, A King, T Lawrence, J Ledley, S MacDonald, A Ramsey; G Bale, J Williams, D Cotterrill, H Robson-Kanu, S Vokes.