(LLun Golwg360)
Fe fydd tîm pêl droed Cymru’n gwisgo bandiau du ar eu breichiau yn eu gêm yn erbyn Serbia dydd Sadwrn ar ôl i FIFA wrthod eu cais i gael pabis coch ar eu crysau.

Roedd Cymdeithas Bêl Droed Cymru eisiau gwisgo’r pabi ar eu crysau i gofio milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf ar drothwy Sul y Cofio.

Mae FIFA’n dweud bod gwisgo’r pabi wedi cael ei wrthod am ei fod yn “symbol gwleidyddol” ac mae’r Gymdeithas Bêl Droed wedi penderfynu peidio herio’r penderfyniad.

‘Gwrthod cais’

“Mae FIFA wedi gwrthod cais gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru i dîm cenedlaethol Cymru wisgo’r pabi ar eu crysau neu ar fandiau du,” meddai datganiad gan y Gymdeithas Bêl Droed.

Tra bod Cymdeithasau Lloegr a’r Alban am wrthryfela’n erbyn y penderfyniad, fydd Cymru ddim yn gwneud – y gwahaniaeth yw fod Lloegr a’r Alban yn chwarae’i gilydd ac felly fydd y naill na’r llall ddim yn cwyno.

Mae Cymru’n chwarae Serbia, lle mae teimladau cryfion o hyd am y rhyfeloedd byd.

‘Mynd yn erbyn gwerthoedd’ Cymru

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod penderfyniad FIFA yn “warthus.”

“Mae’r penderfyniad gwarthus i wahardd tîm Cymru rhag gwisgo’r pabi yn mynd yn erbyn ein gwerthoedd,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’n arwydd o barch cenedlaethol a dyw hi ddim ond yn iawn fod ein chwaraewyr am ymuno â miliynau o bobol eraill i ddangos parch ledled y wlad.

“Dylai ymdrechion y Gymdeithas Bêl Droed i newid hyn gael ei gymeradwyo ac rwy’n sicr bydd ein corff llywodraethu yn dod o hyd i ffyrdd eraill i dalu teyrngedau dros y penwythnos.”