Llŷr Gruffydd
Bydd rhaid denu 10,000 yn ychwanegol o blant ysgol saith oed i ddysgu Cymraeg os yw Llywodraeth Cymru am wireddu ei her o gael miliwn o bobol yn siarad Cymraeg erbyn 2050, yn ôl gwleidyddion.

Mae ffigyrau Plaid Cymru yn dangos mai 22% o blant saith oed sydd yn derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd.

Dywedodd Llŷr Gruffydd mewn dadl yn y Senedd yr wythnos hon bod rhaid “dyblu’r nifer sy’n dewis Cymraeg…os ydyn ni am ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Roedd hefyd yn dweud bod angen i swyddogion y Llywodraeth weithredu mewn modd “creadigol, penderfynol a dewr” wrth geisio gwireddu’r her.

Heriol

Dywedodd Ysgrifennydd y Blaid ar Addysg: “Un o fwriadau gosod y ddadl hon gerbron y Cynulliad yw tanlinellu anferthedd yr ymdrech sydd ei angen i ddyblu’r nifer o siaradwyr Cymraeg mewn cwta 30 mlynedd. Cynnydd na welwyd mo’i fath yn hanes yr iaith. Cynnydd fydd yn heriol inni i gyd ac a fydd yn mynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu mewn modd creadigol, penderfynol a dewr”.

“Gyda dim ond 22% o blant saith oed yn derbyn addysg Gymraeg ar hyn o bryd mi allai hynny olygu denu 10,000 yn ychwanegol o blant o’r oed hwnnw i ddarpariaeth addysg Gymraeg a darparu 300 o ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg ychwanegol ar draws Cymru. Lluosogwch hynny ar draws pob oed a phob sector addysg ac mae maint yr her i’r gyfundrefn addysg yn unig yn dechrau dod yn amlwg.”

Cyllid

Fe wnaeth yr Aelod Cynulliad Siân Gwenllïan ategu’r alwad trwy alw am gyllid digonol i sicrhau bod modd hybu’r Gymraeg yn effeithiol:

“Er mwyn gwella’r sefyllfa mae angen sicrhau cyllid i ddiogelu effeithiolrwydd cynlluniau addysg a rhaglenni sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Law yn llaw â hyn mae angen gwella’r modd mae’r Llywodraeth yn arolygu effeithiolrwydd polisïau addysg cyfrwng Gymraeg.”