Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn lleol ar amheuaeth o dreisio dynes yn ystod oriau mân y bore, Tachwedd 1.

Fe ddaeth cadarnhad heddiw gan y Ditectif Arolygydd William Jones fod y dyn lleol, 38 oed, wedi’i ddwyn i’r ddalfa toc wedi 11yb ddydd Mawrth, Tachwedd 8.

“Yn dilyn ei holi, fe gafodd ei roi ar fechnȋaeth yr Heddlu, gydag amodau caeth,” meddai’r ditectif. “Mae’r dioddefwr a’u teulu wedi cael eu diweddaru ac fe fyddem yn parhau i’w cefnogi.

“Er gwaetha’r ffaith ein bod wedi arestio rhywun, mae’r ymchwiliad yn ei ddyddiau cynnar ac, os fedr unrhyw un ein cynorthwyo, mae angen iddyn nhw gysylltu cyn gynted â phosib.”