Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd
Mae Ysgrifennydd Iechyd, Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi y bydd £6.6m ar gael i wneud gwelliannau i Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod. Mae £2.3m eisoes wedi’i wario ar welliannau i’r to a’r ganolfan eni yno.

Yn ôl Vaughan Gething, mae’r ymrwymiad i barhau gyda’r buddsoddiad yn yr ysbyty yn rhan o’r cytundeb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2015-16.

Bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio er mwyn:

  • Estyn a symud y cyfleusterau presennol i gleifion allanol;
  • Gwella ardaloedd aros i gleifion;
  • Darparu gwell lle ar gyfer yr adrannau achosion dydd, endosgopi a deintyddol;
  • Gwelliannau pellach i’r Ganolfan Eni newydd;
  • Symud a gwella’r adran ddeintyddol;
  • Gwella’r Brif Fynedfa a’r Dderbynfa.

Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r Achos Busnes Llawn ddod i law ym mis Ionawr 2017, gyda’r nod o weld y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.