“Rhoi ofn o’r neilltu a cheisio cymodi” fydd un o swyddogaethau cynta’ Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Mae Carwyn Jones hefyd wedi dweud ei fod yn gobeithio na fydd canlyniad yr etholiad dros Fôr Iwerydd yn cael effaith negyddol ar bresenoldeb Cymru yn America.

Dywedodd mewn datganiad ei fod am barhau i ymweld â’r Unol Daleithiau a “cheisio cryfhau’r cysylltiadau masnachol” â’r wlad.

“Yn dilyn yr ymgyrch etholiadol fwyaf ffyrnig ac annymunol yn hanes modern America, mae llawer o waith o flaen Donald Trump nawr i uno cenedl sydd wedi’i rhannu. Rhaid rhoi ofn o’r neilltu a cheisio cymodi,” meddai Carwyn Jones.

“Yr Unol Daleithiau yw un o brif bartneriaid masnachu Cymru, a’n marchnad mewnfuddsoddi fwyaf o bell ffordd. Bydd gennym bresenoldeb cryf yn America o hyd, gan gynnwys ein swyddfa newydd yn Atlanta.

“Cefais gyfle i ymweld â’r Unol Daleithiau ym mis Medi, ac rwy’n bwriadu mynd yno eto’r flwyddyn nesaf.”