Nigel Williams Llun: Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi enwi’r dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A48 yng Nghaerwent dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 3.30yb i’r ardal ger gwesty gwely a brecwast Northgate House ar ddydd Sadwrn Tachwedd 5 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr.
Cafodd Nigel Williams, 55 oed, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw’n ddiweddarach.
Roedd yn ddyn lleol ac mae datganiad gan ei deulu yn dweud:
“Roedd ganddo dri o blant wedi tyfu i fyny ac roedd yn falch iawn ohonyn nhw. Roedd ganddo amser i bawb ac yn barod bob amser i helpu unrhyw un. Byddwn ni’n ei golli’n fawr.”
Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 77 o 5/11/2016.