Yr Arglwydd Kinnock (Llun: Dushenka CCA 2.0)
Mae’r Arglwydd Kinnock wedi dweud fod angen cynnal refferendwm cyn trosglwyddo pwerau treth incwm i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd y cyn arweinydd Llafur fod “cyfiawnhad syml ar gyfer refferendwm ar benderfyniad cyfansoddiadol ac economaidd mor sylfaenol”.

Ond mewn dadl yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr, fe wnaeth y Farwnes Humphreys ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol groesawu’r penderfyniad ym Mesur Cymru i waredu â’r angen am refferendwm cyn datganoli trethu.

Ychwanegodd yr Arglwydd Dafydd Wigley ar ran Plaid Cymru nad yw refferendwm “yn offer addas i ddewis” polisi trethiant.

“Mae datganoli treth incwm yn golygu y medrwn wneud datrysiadau gwell ar gyfer y sialensiau sy’n wynebu Cymru,” meddai wedyn.