Rurik Jutting Llun: PA
Mae bancwr o Brydain wedi cael garcharu am oes ar ôl i reithgor ei gael yn euog o lofruddio dwy ddynes o Indonesia yn Hong Kong.

Fe benderfynodd y rheithgor yn unfrydol bod Rurik Jutting yn euog o ladd Sumarti Ningsih, 23 oed, a Seneng Mujiasih, 26.

Dywedodd yr erlyniad bod Jutting wedi bod yn defnyddio cocên wrth iddo arteithio Sumarti Ningsih am dridiau cyn ei lladd.

Roedd y rheithgor wedi gweld clipiau fideo yr oedd Jutting, 31, wedi eu cymryd ar ei ffôn symudol wrth iddo ei harteithio. Fe adawodd ei chorff mewn siwtces ar falconi’r fflat moethus lle’r oedd yn byw ger ardal Wan Chai yn Hong Kong.

Cafodd Seneng Mujiasih ei lladd ddyddiau’n ddiweddarach.

Roedd Jutting wedi cyfaddef dynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll ond wedi gwadu llofruddiaeth.

Ymddiheuro

Mae Jutting, a raddiodd o Brifysgol Caergrawnt ac a oedd yn gweithio i Bank of America-Merrill Lynch yn Hong Kong adeg y llofruddiaethau, wedi ymddiheuro am achosi loes i deuluoedd y ddwy ddynes ac wedi dweud bod y dyfarniad yn “gosb briodol.”

Roedd wedi cynnig symiau mawr o arian i’r ddwy ddynes i ddod yn ôl i’w fflat i gael rhyw.