Hillary Clinton a Donald Trump mewn dadl deledu ym mis Hydref, Llun: PA
Fe fydd yr ymgyrchu yn un o etholiadau mwyaf chwerw’r Unol Daleithiau yn dwyn ffrwyth heddiw, wrth i ddegau o filiynau o Americanwyr bleidleisio i ddewis ai Hillary Clinton neu Donald Trump fydd eu harlywydd nesaf.

Y Democrat Hillary Clinton sydd ar y blaen yn y polau piniwn, o drwch blewyn, ac mae hi’n annog trigolion i bleidleisio tros “America obeithiol a chynhwysol.”

Mae ei gwrthwynebydd, y dyn busnes a’r Gweriniaethwr Donald Trump yn gobeithio “gwneud America yn wych unwaith eto”.

Rali

Daeth ymgyrchu Hillary Clinton i ben gyda digwyddiad mawreddog yn Philadelphia nos Lun (amser lleol) lle cafwyd areithiau gan yr Arlywydd Barack Obama a’i wraig Michelle Obama.

Fe ddiolchodd Barack Obama i bobol America am ddewis “dyn tenau gydag enw rhyfedd” i’w cynrychioli.

Draw ym Michigan, fe ddywedodd Donald Trump mewn rali yn y Grand Rapids mai “heddiw fydd ein Diwrnod Annibyniaeth. Heddiw, fe fydd dosbarth gweithiol America yn taro nôl”.

Fe fydd y ddau ymgyrchydd yn Efrog Newydd i glywed y canlyniadau, lle bydd dros 5,000 o swyddogion heddlu yn diogelu canol Manhattan rhag unrhyw ymosodiad brawychol posib, yn ôl adroddiadau.

Wedi’r canlyniad, fe fydd Barack Obama yn aros yn y Tŷ Gwyn tan 20 Ionawr cyn y daw’r arlywydd nesaf i gymryd ei le.