Mark Williams
Mae angen dileu’r “agwedd ni a nhw” at fewnfudwyr sy’n bodoli yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain, yn ôl Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams.

Roedd y Democrat Rhyddfrydol yn un o’r siaradwyr yn lansiad ymgyrch ‘Cymru i Bawb’ yng nghanolfan y Morlan yn Aberystwyth nos Wener, ynghyd â Llywydd y Cynulliad Elin Jones, yr Aelod Cynulliad Llafur Joyce Watson, Siôn Meredith o Eglwys y Santes Fair yn Aberystwyth, a’r Parchedig Aled Edwards.

Nod yr ymgyrch yw annog a chynnal trafodaeth ar faterion yn ymwneud ag integreiddio cymunedol yng Nghymru, sy’n cynnwys hil, iaith, diwylliant, crefydd, rhyw, rhywioldeb a gallu corfforol.

‘Rhwyg’ ers refferendwm Ewrop

Yn ôl Mark Williams, mae diffyg goddefgarwch yn y gymdeithas yn fwy amlwg ers y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin.

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae yna bryder cenedlaethol sydd wedi’i amlygu ei hun yn lleol ers y bleidlais ar 23 Mehefin fod yna agwedd ‘ni a nhw’, ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu yn agweddau pobol at fewnfudwyr, ffoaduriaid a phobol o wahanol gefndiroedd yn gyffredinol.

“Mae yna rwyg ar hyn o bryd, ac mae ‘Cymru i Bawb’, drwy ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd yn gwneud datganiad ein bod ni’n well na’r math hwn o rwyg ry’n ni wedi ei weld yn y gymdeithas – ac fe wnaethon ni ei weld yr wythnos diwethaf yn sylwadau’r wasg am y barnwyr o safbwynt sofraniaeth y senedd hefyd.”

‘Rhaid parchu’r farnwriaeth’

Penderfynodd yr Uchel Lys yr wythnos diwethaf fod angen cydsyniad y senedd gyfan yn San Steffan cyn gallu bwrw ati i weithredu Cymal 50 er mwyn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd y penderfyniad hwnnw’n cael ei wrthwynebu yn y Goruchaf Lys, ac mae Mark Williams yn beirniadu’r cyfryngau am eu hagwedd at y farnwriaeth.

“Dywedais i yn fy araith fy mod i’n credu bod gan y cyfryngau gyfrifoldeb o ran yr iaith maen nhw’n ei defnyddio. Fe welson ni ymosodiadau cwbl ddiangen ar y barnwyr a’r bobol hynny aeth â’u hachos i’r Uchel Lys.

“Roedd hi’n ddychrynllyd clywed y ddynes aeth â’r achos i’r Uchel Lys yn siarad am y casineb mae hi wedi’i wynebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Rhaid i fi ddweud na fydda’ i’n darllen rhai o’r papurau newydd hynny eto – y Mail a’r Sun a’r Telegraph – oherwydd y ffordd maen nhw wedi mynd ati i feirniadu adain annibynnol o’n cymdeithas ni am wneud eu gwaith.

“Rhaid parchu annibyniaeth y farnwriaeth. O ran Cymal 50, does bosib na fyddai’r Ceidwadwyr yn cydnabod y dylai’r Senedd barhau’n sofran ar fater mor bwysig.”

Ond beth yw’r ateb?

Mae darganfod ateb i ddiffyg goddefgarwch yn broses anodd, meddai, ac mae’n annog ymgyrchoedd fel ‘Cymru i Bawb’ i benderfynu a ydyn nhw am gynnig llwyfan i drafod materion, neu’n barod i fynd gam ymhellach a gweithredu i ddatrys y sefyllfa.

“A oes modd cyflwyno polisïau? Dydy’r ateb ddim yn amlwg. A oes yna egwyddor sylfaenol? Oes. Rhaid parhau i drafod.

“Ry’n ni’n ymwybodol o’r arwahanrwydd sy’n bodoli ac mae angen i ni egluro wrth bobol fod y gymuned hon yn un gref a’n bod ni’n sefyll gyda’n gilydd gan gredu ei bod yn bwysig bod mewnfudwyr yn dod yma, bod angen cefnogi ffoaduriaid sy’n dod yma, yn ogystal â chefnogi ffoaduriaid ar draws y byd.

“Mae angen gwneud mwy o ddatganiadau o’r fath ac un peth mae’r ymgyrch yn ei wneud yw arddangos y neges honno drwy fusnesau tref Aberystwyth, ac mae hynny i’w groesawu.”

Bwrw swildod – ac osgoi “dod yn rhan o’r broblem”

Wrth drafod y sefyllfa, mae perygl bod pobol yn teimlo eu bod yn “rhan o’r broblem”, yn ôl yr Aelod Seneddol a gafodd ei eni a’i fagu yn Lloegr, ond sydd wedi teimlo’n gartrefol yng Ngheredigion ers 32 o flynyddoedd bellach.

“Dydy pobol ddim yn hoffi trafod materion o’r fath. Os ydych chi’n trafod materion, rydych chi mewn perygl o gael eich ystyried yn rhan o’r broblem. Mae’n rhaid i ni gydnabod gwahaniaethau a dathlu’r ffaith ein bod ni’n gyfoethocach oherwydd ein gwahaniaethau.

“Ry’n ni’n gymuned amrywiol ac fe ddylen ni fod yn dathlu hynny. Mae hynny’n berthnasol i bobol fel fi, ar ôl dod i fyw a gweithio a magu teulu yng ngorllewin Cymru, ag yw e i bobol sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt.”

Aberystwyth – ‘town and gown’

Yn ôl Mark Williams, a raddiodd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gan fyfyrwyr ran bwysig i’w chwarae yn y broses o greu cymuned integredig.

“Mae myfyrwyr o dramor wedi cyfrannu’n helaeth at economi Ceredigion ac at natur gyfoethog ein cymdeithas. Felly mae’r ffordd y mae ‘town and gown’ yn gallu cael eu hintegreiddio ac yn parhau i gael eu hintegreiddio’n holl bwysig.”

Mae’n tynnu sylw at y “gwaith da” sydd wedi cael ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion wrth groesawu teuluoedd o Syria yn ddiweddar ac wrth herio “iaith lai na pharchus” rhai carfannau o’r gymdeithas.

“Byddwn i’n naïf ac yn anonest pe bawn i’n dweud nad oes rhai yn ein cymdeithas ac yn ein cymuned sydd heb groesawu’r bobol hynny ac sydd â barn na fyddwn i’n cytuno â hi yn nhermau mewnfudo.

“Ond siarad â phobol yw’r peth pwysig. Siarad â phobol, siarad am faterion wrth iddyn nhw godi, bod yn agored am broblemau a chydnabod fel cymuned ein bod ni wedi elwa’n sylweddol iawn o fod yn gymuned gosmopolitan.”

Cyfweliad: Alun Rhys Chivers