Rebecca Evans
Wrth ail-gyflwyno Mesur Iechyd y Cyhoedd (Cymru) heddiw mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud mai lle pob awdurdod lleol yw asesu’r angen am doiledau cyhoeddus o fewn eu hardaloedd.

Dywedodd Rebecca Evans wrth Golwg360 y bydd disgwyl i’r awdurdodau lleol lunio strategaeth am sut i ddatblygu’r cyfleusterau toiledau cyhoeddus “yn ôl yr angen lleol”, a’i gyflwyno o fewn blwyddyn o gymeradwyo’r Mesur.

“Mae’r Mesur yn pwyso ar bob awdurdod lleol i baratoi strategaeth i’r ardal sy’n cynnwys asesiad o’r angen o fewn y cymunedau, a bydd hynna’n amrywio i bob awdurdod,” meddai.

Dywedodd ei bod am gadw’r costau’n isel wrth gydnabod y pwysau ariannol mae’r awdurdodau lleol yn wynebu.

“Dydyn ni ddim eisiau rhoi gormod o bwysau ar yr awdurdodau lleol mewn cyfnod lle maen nhw o dan bwysau ariannol,” meddai.

Am hynny esbonia: “does dim rhaid iddyn nhw adeiladu toiledau newydd efallai, gallai fod lle i edrych i mewn i’r posibilrwydd o agor toiledau preifat i fod yn rhai cyhoeddus.”

Fe fydd yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol ar y Mesur yn y Senedd yfory (Tachwedd 8) a dywedodd bod disgwyl iddo ddod i rym erbyn haf y flwyddyn nesaf.

Y Mesur

Dyma’r eilwaith i’r Mesur gael ei gyflwyno wedi iddo fethu ym mis Mawrth eleni ar ol i Blaid Cymru ei wrthwynebu ar y funud olaf.

Bellach, dyw’r Mesur ddim yn cynnwys y gwaharddiad dadleuol ar e-sigarets, ond mae’n cynnwys gwahardd ysmygu ar dir ysgolion, ysbytai ac mewn meysydd chwarae cyhoeddus.

Mae rhannau eraill yn cynnwys llunio trwyddedau gorfodol i wasanaethau aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio, ynghyd â gwahardd tyllu rhannau personol corff unigolion o dan 16 oed.

Mae hefyd yn cynnwys creu cofrestr o werthwyr tybaco neu nicotin, gwahardd cynnyrch tybaco a nicotin rhag cael eu rhoi i unigolion o dan 18 oed, gorfodi cyrff cyhoeddus i asesu sut bydd eu penderfyniadau’n effeithio ar iechyd unigolion a gwneud fferyllfeydd yn fwy atebol i anghenion eu cymuned leol.