‘Y Bêl Enfawr’ yng Nghastell Caerdydd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd (Llun: Cyfrif Twitter Cyngor Caerdydd)
Fe fydd Caerdydd yn clywed heddiw a yw wedi bod yn llwyddiannus yng Ngwobrwyon Twristiaeth a Chwaraeon Byd-eang yn Llundain.

Mae prifddinas Cymru ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Dinas Dwristiaeth, gwobr Arloesedd Twristiaeth ar gyfer ‘Y Bêl Enfawr’ boblogaidd yng Nghastell Caerdydd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd, a’r categori Cyfranogiad Torfol ar gyfer Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd.

Croesawodd arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale y newyddion, ac eglurodd,  “Mae’n newyddion ardderchog bod Caerdydd wedi cael tri enwebiad ar gyfer y gwobrwyon hyn.

“Unwaith eto, mae’n deyrnged i’r ffordd y mae’r ddinas wedi cael enw da am gynnal digwyddiadau chwaraeon byd-eang a phroffil uchel. Rhywbeth sy’n dystiolaeth o hyn yw’r ffaith y bydd gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cael ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm o flaen cynulleidfa fyd-eang o filiynau o bobl.”

‘Buddiannau economaidd’

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, Cwmnïau Cydweithredol a Mentrau Cymdeithasol, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Y llun o’r bêl rygbi yn torri trwy waliau Castell Caerdydd oedd un o luniau gorau Cwpan Rygbi’r Byd yn fy marn i.

“Mae sefyllfa Caerdydd fel prif leoliad chwaraeon yn dod â buddiannau economaidd enfawr i’r ddinas a hoffwn longyfarch pob tîm y tu ôl i’r enwebiadau hyn. Gobeithio y byddant yn dod â’r holl wobrwyon yn ôl i Gaerdydd yr wythnos nesaf.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi heddiw yn y gynhadledd Twristiaeth Chwaraeon Byd-eang yng nghanolfan ExCel yn Llundain.