Llun: Elusen Brake
Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio yng Nghymru heddiw i dargedu modurwyr sy’n defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru.

Mae pob un o luoedd heddlu Cymru wedi ymrwymo i’r ymgyrch hon gan Ddiogelwch y Ffyrdd Cymru sy’n parhau o heddiw (Tachwedd 7) tan ddydd Sul, Tachwedd 20.

Mewn ymgyrch debyg y llynedd, cafodd mwy na 500 o fodurwyr eu dal ar hyd a lled Cymru yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru.

Dros y bythefnos nesaf fe fydd swyddogion yr heddlu yn targedu modurwyr sy’n defnyddio ffonau symudol, ac fe allant gael dirwy o £100 a thri phwynt ar eu trwyddedau.

Dirwyon

“Mae ffonau symudol yn rhan allweddol o fywyd modern ac rydym hyd yn oed yn gweld gyrwyr yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol, darllen eu he-byst neu’n mynd ar y we wrth yrru,” rhybuddiodd Darren Wareing, Prif Arolygydd Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’n atgoffa modurwyr i beidio ag ateb galwadau wrth yrru, ac os oes angen defnyddio ffôn symudol, yna i dynnu i mewn i fan diogel.

Dywed hefyd nad yw defnyddio ffonau symudol wrth aros mewn goleuadau traffig yn gyfreithlon chwaith, ac y gall gyrwyr bysiau neu loriau dderbyn dirwy hyd at £2,500.