Pont Hafren Llun; Wicipedia
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi awgrymu y gallai teithwyr i’r ddau gyfeiriad dros Bont Hafren orfod talu tollau yn y dyfodol.
Esboniodd fod hynny’n rhan o ymgynghoriad mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu’i gynnal i archwilio system newydd fyddai’n hwyluso llif traffig fel na fydd rhaid i fodurwyr stopio wrth y mannau hyn.
Er hyn, nid oes manylion pellach wedi’i ryddhau ynglŷn â pha bryd bydd yr ymgynghoriad hwnnw’n dechrau.
Hanner cant oed
Mae Pont Hafren yn dathlu hanner can mlynedd eleni ers ei hagor yn wreiddiol yn 1966.
Ar hyn o bryd, dim ond teithwyr i Gymru sy’n gorfod talu toll o £6.60 i geir a £13.20 i faniau, ond roedd sôn yng nghyllideb George Osborne ym mis Mawrth eleni y byddai’r swm hwnnw’n haneru o 2018 ymlaen.