Llun: PA
Mae pedwar llu heddlu Cymru wedi lansio ymgyrch i fynd i’r afael cham-drin ac ecsploetio plant yn rhywiol ar y we.

Mae heddluoedd yng Nghymru yn targedu’r rhai sy’n gwylio delweddau anweddus o blant ar y we.

Cafodd Ymgyrch ‘Net Safe’ ei lansio ar y cyd gyda Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gogledd Cymru, gyda’r nod o ddiogelu plant trwy ganfod camdriniaeth ac erlyn troseddwyr am feddu ar ddelweddau o blant ar-lein neu eu dosbarthu.

Yn yr ymgyrch hon, mae’r heddlu wedi dod ag arbenigedd swyddogion fforensig at ei gilydd i dargedu troseddwyr.

‘Graddfa’r broblem yn arswydus’

Dywedodd Prif Gwnstabl cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jon Drake, sy’n arwain ar droseddau  yn erbyn ecsbloetio plant: “Mae graddfa’r broblem yng Nghymru yn arswydus ac yn drist. Fe fydd Ymgyrch Net Safe yn ein galluogi i barhau i daclo troseddau yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ganfod troseddwyr ac i ddwyn  troseddwyr o flaen eu gwell.”

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu yn Ne Cymru, Alun Michael: “Mae Ymgyrch Net Safe yn anelu i roi blaenoriaeth i warchod y mwyaf bregus yn ein cymunedau.

“Wrth weithio gyda phartneriaid, yr ydym yn mynd ati i adnabod troseddwyr a dioddefwyr fel bod gennym gyfle i ymyrryd i rwystro troseddu yn erbyn plant, ac yn fwy pwysig i weithredu’n gadarnhaol  i warchod dioddefwyr gan ddiogelu plant sydd mewn perygl o’r math yma o gamdriniaeth.”

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r heddlu yn cydweithio gydag elusen warchod plant,  Sefydliad Lucy Faithfull, sy’n rhedeg ymgyrch Stop it Now! sy’n canolbwyntio ar droseddwyr, a photensial troseddwyr, ac aelodau o’r teulu  sydd eisiau siarad yn gyfrinachol ar linell ffon gyfrinachol.

Dywedodd Donald Findlatero ar ran Sefydliad Lucy Faithfull Foundation,  “Fel elusen yr ydym yn credu  fod angen i oedolion led-led Cymru  gadw plant yn ddiogel  rhag camdriniaeth.

“Cyn belled ag yr ydym yn gwybod mae yna gannoedd, o bosib miloedd o bobl led-led Cymru, yn gwylio delweddau anweddus o blant ar-lein. Dyma luniau o blant a phobl ifanc sy’n cael eu cam-drin. Mae’r ymddygiad yma yn anghyfreithlon  hyd yn oed os ydy’r gwylwyr yn sylweddoli hynny neu beidio.”