Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cymru ddweud wrth arweinwyr busnes fod llwyddiant y wlad yn dilyn Brexit yn dibynnu ar eu hegni a’u dychymyg nhw.

Fe fydd llewyrch y Gymru ôl-Brexit i’w weld ym mha mor “ddeinamig a dychmygus” y gall pobol fusnes fod, yn ôl Alun Cairns, wrth iddo draddodi neges  i godi calon y sector busnes mewn brecwast gan fanc Barclays a’r CBI yng Nghaerdydd.

“Mae Cymru ar drothwy pennod newydd, ac mae Cymru yn dod at y bennod newydd hon yn gryf. Chi – yr arweinwyr busnes – sy’n creu’r twf economaidd. Chi yw’r arbenigwyr pan mae’n dod i greu swyddi a rhedeg cwmnïau.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i’r cynorthwyo i ddod o hyd i farchnadoedd newydd,” fydd neges Alun Cairns wedyn. “Ond, arweinwyr y byd busnes fydd yn adeiladu’r economi, trwy greadigrwydd ac agwedd ddeinamig, a nhw yw’r bobol fydd yn arwain ein symudiad llwyddiannus i mewn i fyd ôl-Brexit.”

Sialensau 

Ond fydd pethau ddim yn fêl i gyd, ac mae Alun Cairns yn derbyn hyn. Er hynny, fe fydd yn dweud wrth y gymuned fusnes fod gan Gymru le i ymfalchïo yng nghryfder yr economi:

* Mae nifer y bobol sydd mewn gwaith ar ei lefel uchaf erioed;

* Fe gafodd 5,000 o swyddi newydd eu creu y llynedd o ganlyniad i fuddsoddiad o dramor;

* Roedd gwerth y cynnyrch o Gymru a gafodd ei allforio y llynedd yn £12bn.