Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi croesawu ystadegau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod yr economi wedi tyfu 0.5% yn nhrydydd chwarter 2016.

Yn ol swyddfa’r ONS, does yna ddim tystiolaeth fod y twf wedi digwydd oherwydd canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Andrew RT Davies o’r farn bod yr economi yn dal ei thir er gwaetha’r darogan gwae. “Mae’r ffigurau yn dangos fod yr economi yn wydn a’i fod yn tyfu,” meddai.

“Yn naturiol, mae angen i’r economi addasu i’r berthynas newydd gyda Undeb Ewropeaidd, ond rydyn ni mewn lle da i ddelio gyda’r heriau gan gymryd mantais o’r cyfleoedd o’n Blaenau.”

Arweiniad o Gymru?

Mae Andrew RT Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig arweiniad gymryd arweiniad.

“Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r holl liferi sydd ar gael iddynt i gefnogi’r economi a methrin hyder pellach mewn busnes,” meddai.

“Y mae’n amser i’r nacawyr gofleidio gadael yr Undeb Ewropeaidd yn hytrach na thrio’n barhaus i ail-gynnal y refferendwm, gan ddadnwneud ewyllys y bobol.”