Sammy Almahri
Mae dyn sydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes mewn gwesty yng Nghaerdydd wedi cyfaddef iddo wneud hynny.
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe blediodd Sammy Almahri, 44 oed, yn euog i lofruddio Nadine Aburas yng Ngwesty’r Future Inn ym Mae Caerdydd ar Nos Calan 2014.
Yn wreiddiol roedd wedi pledio yn euog o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn cymryd cyfrifoldeb llawn o’i weithredoedd.
Clywodd y llys ei fod wedi lladd Nadin Aburas oherwydd ei fod wedi clywed “llais Duw” yn ei orchymyn i wneud hynny.
Disgrifiodd yr erlynydd Roger Thomas QC y diffynnydd fel rhywun cenfigennus a oedd wedi bygwth postio lluniau o Nadine Aburas yn noeth ar Y We.
Dywedodd Roger Thomas: “Cafodd corff Nadine Aburas ei ddarganfod yn ystafell 203 gan reolwr y gwesty.
“Yr oedd yr ystafell wedi’i chloi ac roedd arwydd ar y drws yn dweud wrth bobl i beidio tarfu.”
Bu i Almahri ffoi i Tanzania yn dilyn y farwolaeth, ac fe glywodd y Llys fod gwarant ryngwladol wedi’i alw gan Interpol.
Fe gafodd Sammy Almahri ei arestio gan heddlu lleol yn Tanzania cyn cael ei gludo yn ôl i Brydain.
Yr oedd Sammy Almahri yn honni ei fod yn dioddef o salwch meddwl mewn perthynas â’r llofruddiaeth honedig.
Roedd y cwpwl wedi cyfarfod ar safle MuslimMatch.com yn 2013.
Clywodd y Llys fod Sammy Almahri wedi dod i Gymru ar Ragfyr 29, 2014 a bod Nadine Aburas wedi dod i’w westy’r diwrnod canlynol er ei bod wedi dweud ynghynt nad oedd hi eisiau dim byd i’w wneud ag o.
Mae’r achos yn parhau.